AdminHistory | Fe gafodd J.O. Roberts, sydd yn enedigol o Lerpwl ond a dreuliodd rhan helaeth o’i fywyd yng Nghymru, yrfa lwyddiannus ac amrywiol iawn. Fe ddechreuodd ei ddiddordeb mewn drama o oed ifanc iawn ac mae ei lwyddiannau ar y sgrin ac ar lwyfan yn adlewyrchu hynny. Yn ogystal ag actio fe gafodd J.O. Roberts yrfa lwyddiannus iawn fel athro, yn Lerpwl i gychwyn ac yna yn Ynys Môn, ble roedd yn ddirprwy brifathro yn Ysgol Llanerchymedd. Fe dreuliodd gyfnod yn adran ddrama’r Coleg Normal, Bangor, yn ogystal. Ar ôl ymddeol fel athro fe ddaeth yn wyneb cyfarwydd ar S4C. Rhai o’r cyfresi, ffilmiau a rhaglenni mwyaf nodweddiadol y buodd yn actio ynddynt oedd Lleifior, Cysgodion Gdansk, Branwen a Chwalfa. Er hyn, y rhan yr oedd yn cael ei gydnabod fwyaf amdano oedd ei bortread o Owain Glyndŵr. Mae J.O. Roberts, hyd heddiw, yn cael ei weld fel un o ser fwyaf blaenllaw S4C yn ei gyfnod, ac roedd ei gyfraniad i fyd ffilm a theledu yn un gyfoethog iawn. Yn 2016 fe dderbyniodd J.O. Roberts Gymrodoraeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor am ei wasanaeth i fyd y ddrama. |