Alt Ref NoCYNAN
TitlePapurau Cynan
DescriptionMae'r casgliad yn cynnwys papurau yn ymwneud â'r bardd, Cynan, yn bennaf, ond ceir hefyd rhai eitemau sy'n perthyn yn uniongyrchol i Dr Emyr ap Cynan, Mona Mostyn ei wraig a'i theulu hithau (a ddeuai o gyffiniau Amlwch).
Date1855-1981
Extent294 o eitemau
AdminHistoryRoedd Albert Evans Jones (1895-1970), Cynan, yn fardd gyda chysylltiadau cryf â'r Eisteddfod Genedlaethol. Fel cystadleuydd, enillodd y goron deirgwaith a'r gadair unwaith, ac fel Archdderwydd (ddwywaith) daeth yn adnabyddus am foderneiddio'r Eisteddfod Genedlaethol gan greu a datblygu'r prif seremonïau. Adwaenir ef hefyd fel brenhinwr a chwaraeodd ran flaenllaw yn yr arwisgiad yn 1969 ac fe adlewyrchir hyn yn y casgliad yma.
Priododd Cynan ddwywaith - yn 1921 ag Ellen J. Jones o Bwllheli (cawsant fab a merch) ac yn 1963 â Menna Meirion Jones o Y Fali, Ynys Môn.
Roedd ei fab, Emyr ap Cynan, yn feddyg yng Nghaergybi a briododd â Mona Mostyn. Roedd eu mab hwythau, Robin ap Cynan (1950-2015), yn gyfreithiwr blaenllaw.
AcquisitionPrynwyd y casgliad yma o bapurau yn 2016 oddi wrth ysgutorion ewyllys Robin ap Cynan - ŵyr i Cynan a mab Dr Emyr ap Cynan. Talwyd amdanynt ar y cyd gan Ysgol y Gymraeg a'r Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau.
AccessConditionsOpen to all users
    Powered by CalmView© 2008-2024