Alt Ref NoDGJ
TitleArchif Newyddiadurol Dafydd Glyn Jones Press Cutting Archive
DescriptionCasgliad o doriadau papurau newydd ar amrywiol bynciau wedi'u casglu dros gyfnod o drigain mlynedd gan Dafydd Glyn Jones yw hwn. Rhydd rhyw fath o ddarlun o fywyd Cymru a'r byd oddi ar ail hanner y 1950au.

Prif ffynonellau'r toriadu yw :
Y Cymro (C)
Caernarvon & Denbigh Herald (CDH)
Daily Telegraph (DT)
Guardian (G)
Yr Herald Cymraeg (H)
Independent (Ind)
Observer (Ob)
Sunday Times (ST)
Sunday Telegraph (S.Tel)
Times (T)

Bras-rannwyd dan benawdau, ac mae gorgyffwrdd wrth gwrs. Gallesid dosrannu'n fanylach, ond weithiau gall y gymysgedd fod yn ddifyrrach i'r sawl a drawo'i drwyn yn y casgliad. Mae'r anghyfartalwch o un testun i'r llall yn adlewyrchu mympwy'r casglwr a'r hyn y digwyddodd ei weld.
Mae yma dipyn o hen hanes. Pwy sy'n gofidio bellach am agor tafarnau ar y Sul? Pwy sy'n cofio helynt Ysgol Bryncroes? Beth ddaeth o gynllun y dref newydd yn y Canolbarth, neu gynllun ehangu'r Bala? Pryd y cyhoeddwyd Rhybudd D ddiwethaf? Oes rhywun yn malio beth a ddywedodd 'Wil, Elystan, Goronwy a Cled aha-ha'? Pwy all restru ymgeiswyr Sir Fôn yn Etholiad Cyffedinol 1966? Erys dirgelwch Meibion Glyndwr.
Date1950-2015
Extent7 linear metres
AdminHistoryBu Dafydd Glyn Jones yn aelod o staff Adran y Gymraeg, Coleg y Brifysgol, Bangor rhwng 1966 a 2001. Tua chanol y 1950au dechreuodd gadw toriadau ar hyn a'r llall, gan feddwl efallai y gwnâi ddefnydd ohonynt 'ryw ddiwrnod'. Ni ddaeth y diwrnod. Dim ond gobeithio y bydd y casgliad o ryw fudd i rai yn ymddiddori yn hanes Cymru a'r byd dros chwe degawd.
AccessConditionsOpen to all users
LocationBindery
    Powered by CalmView© 2008-2024