Alt Ref NoIW
TitlePapurau Syr Ifor Williams
DescriptionYr ohebiaeth, heb os, yw calon y casgliad yma. Roedd Ifor Williams yn lythyrwr mawr. Mae cewri'r byd academaidd a llenyddol yng Nghymru yn gohebu ag ef ynghyd â gwyr Prifysgol ac arbenigwyr astudiaethau Celtaidd ledled Ewrop e.e. J. Gwenogvryn Evans, Kenneth Jackson, Rachel Bromwich, Idris Foster. Mae'r ohebiaeth yn adlewyrchu bywyd academaidd, bywyd cymdeithasol a bywyd personol yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Ceir yma, gip olwg ar faterion llosg y dydd, yn ei filltir sgwar, yng Nghymru, ac ymhellach. Mae'r llythyrau ato oddi wrth fechgyn ifanc Cymru yn y Rhyfel Mawr yn dyst i'r golled fawr brofodd y wlad; ac yn ystod cyfnod yr ail Ryfel Byd gwelwn, yn y llythyrau oddi wrth Max Forster a Pokorny, fel y cafodd y byd academaidd ei gyffwrdd yn uniongyrchol gan Hitler a'i Natsïaid.
Yn y casgliad hefyd, ceir papurau sy'n perthyn i gyfnod cynharach, cyfnod y bardd, Robert ap Gwilym Ddu. Ni ellir egluro presenoldeb y dogfennau hyn ymysg papurau personol Ifor Williams, ond gellir tybio i rywun a fu'n gweithio arnynt eu trosglwyddo iddo, er eu diogelwch, a diolch am hynny.
Date1640-1978
Extent2299 items
AdminHistoryGaned Ifor Williams ym Mhendinas, Tregarth, Sir Gaernarfon yn 1881. Yn fab i John a Jane Williams ac yn wyr i Hugh Derfel Hughes, yr hanesydd lleol.
Er i ddamwain dorri ar ei addysg gynnar, ni chafodd ei rwystro yn academaidd. Graddiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor mewn Groeg a Chymraeg, ac ymhen pymtheg mlynedd roedd Cadair arbennig wedi'i chreu iddo mewn Llenyddiaeth Gymraeg yn yr un Brifysgol. Ar ôl marwolaeth John Morris-Jones, daeth yn Athro yn yr Adran. Yn wahanol i'w ragflaenwyr, defnyddiodd y Gymraeg fel cyfrwng dysgu. Roedd hyn yn gam arloesol.
Roedd yn ddarlithydd, yn bregethwr, yn olygydd, yn ddarlledydd radio ac yn awdur toreithiog; ac fe adlewyrchir ei holl weithgaredd yn y casgliad hwn.
O ran ymchwil, llenyddiaeth Gymraeg gynnar ac enwau lleoedd oedd ei brif feysydd. Ond, yn rhyfeddol, byddai ei ddarlithoedd a'i sgyrsiau yn apelio at y Cymro cyffredin yn ogystal â'r ysgolhaig. Mae'r amrywiaeth o ohebwyr a ysgrifenai ato yn profi hyn.
AccessConditionsOpen to all users
    Powered by CalmView© 2008-2024