Description | Hanes ymweliad fore Saboth, Rhagfyr 14, 1873, 'a gwersyll Indiaid, yr hwn sydd ar lan Llyn Superior, oddeutu pedair milldir i'r dwyrain o bentref bychan o'r enw L'Ause, a, a deuddeg milldir i'r gorllewin o'r Sefydliad Cymreig a elwir Arvon,' gan 'Einion ap Gwilim,' sef Thomas Ellis, gof pentref Llandygai (fel ei dad o'i flaen) a aeth i Chicago i wneud ei ffortiwn. Ymddengys mai ar gyfer rhyw eisteddfod y sgrifenwyd yr hanes. Priododd T.E. Mary Ann Hughes, Llaingoch, Caergybi, ym 1888, a'i henw hi a welir ar yr amlen sydd gyda'r llawysgrif. Fe'i claddwyd ym mynwent Llandygai. |