Alt Ref NoBMSS/20402
TitleLlythyr oddi wrth Richard Williams o Goleg Iesu, Rhydychen, at 'Car Michael
DescriptionYn rhoi peth o hanes o helynt ei daith o Fôn yn ôl i Rydychen: amharodrwydd 'porthwyr anhirion, crygion, ceg-sychion a digwilidd' Conwy i'w gario dros yr afon; ei anhawster i gael llety un Ninbych ar ddiwrnod ffair; cael ei led-ddenu i ymuno a helfa gerllaw Caerwys: gwerthu ei geffyl bach 'dada' (ceir llun ohono yn y llythyr) a llogi 'riw hen yscerbwd im cario i'r dref [Rhydychen],' etc.
Date25 Tachwedd 1751
AdminHistoryRoedd Richard Williams yn fab i Richard Williams, ciwrad Bodedern. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, 24 Mai 1748, yn 19 oed; graddiodd yn B.A. 1752. Penodwyd ef yn rheithor Llandegfan, 20 Ebrill 1763 ac yn rheithor Llanrhuddlad, 17 Tachwedd 1778. Bu farw ym 1788.
    Powered by CalmView© 2008-2024