Alt Ref NoBMSS/20456-20462
TitlePapurau Edward T. John (1857 - 1931)
AdminHistoryBu'n aelod seneddol (Rhyddfrydwr) dros ddwyrain Dinbych, 1910 - 1918; yn 1918 safodd fel ymgeisydd Llafur yn rhanbarth arall y sir, eithr yn aflwyddiannus; felly hefyd ym Môn yn 1922. Ar hyd ei yrfa wleidyddol bu'n selog iawn dros ymreolaeth i Gymru, a bu wrthi'n ddyfal yn casglu gwybodaeth ystadegol tuag at atgyfnerthu'r ddadl economaidd dros ymreolaeth Gymreig. Bu am ddeng mlynedd yn llywydd Undeb y Cymdeithasau Cymraeg; pleidiai'r mudiad heddwch hefyd a bu'n llywydd y 'Peace Society' o 1924 hyd 1927.
    Powered by CalmView© 2008-2024