Description | Abram Thomas, Penyddol, Llanbryn-mair oedd y bardd buddugol a chyhoeddwyd ei awdl yn Y Geninen (Eisteddfodol), Awst 1907. Ond awdl gan R. Williams Parry oedd yr orau ym marn 'Dyfnallt,' ond iddi gyrraedd yn hwyr i'r gystadleuaeth. Fe'i bwriwyd o'r gystadleuaeth ar ôl i'r beirniad ymgynghori â phwyllgor yr eisteddfod. Cyhoeddwyd awdl R. Williams Parry yn y Geninen, Ebrill 1907. Ffugenw Hedd Wyn y gystadleuaeth oedd 'Llygad y Dydd.' Am hanes llawn o'r helynt gw. llythyr O.M. Lloyd yn Y Tyst, 17 Mai 1956, ac ysgrif D. Gwenallt Jones, 'Barddoniaeth gynnar Robert William Parry' yn Llên Cymru, iv., 4, Gorff., 1957. |