AdminHistory | Gwr o gyffiniau Llanfachreth, Dolgellau oedd John Henry Williams - o Gwm Hermon yn wir,ac fe'i magwyd mewn tyddyn o'r enw Hafod Owen. Ordeinwyd ef ym 1913 a'i ofalaeth gyntaf oedd Mynydd Isaf ger yr Wyddgrug. Oddi yno, symudodd ym 1920 i Dremadog, ac ym 1924 i'r Graig, Bangor, lle y bu nes ymddeol ohono ym 1944 a symud i fyw i Ffestiniog. Cyfansoddodd ugeiniau o ganeuon ac englynion a pharhaodd i gystadlu hyd yn ddiweddar. Roedd yn lysieuwr a bydda'i sôn hefyd am addoli natur. Mewn rhai pethau hoffai Babyddiaeth, ac weithiau beirniadai'r Crynwyr. By farw 28 Chwefror 1971 yn 94 mlwydd oed. |