Pwy all ddefnyddio’r Archifau a Chasgliadau Arbennig ?
Mae’r Archifau’n agored i bawb - academyddion, myfyrwyr a’r cyhoedd.
Rwyf wedi gweld cofnod yn y catalog ac angen gweld yr eitem. Beth yw’r drefn?
Gellir gweld eitemau o’r archifau yn ystafell ddarllen yr Archifdy. Am ragor o wybodaeth am ein horiau agor, trefniadau mynediad a manylion am ein gwasanaethau a chyfleusterau, edrychwch ar ein gwefan http://www.bangor.ac.uk/archives
A oes angen i mi wneud apwyntiad ?
Nid oes angen gwneud apwyntiad fel rheol ond mae’n fuddiol i’r rhai sy’n teithio o bellter ffonio neu e-bostio o flaen llaw.
Pam na allaf weld delweddau o’r dogfennau yn y catalog ?
Mae’r catalog yn cynnwys disgrifiadau ysgrifenedig o’r dogfennau yn yr archifdy ac nid delweddau digidol o’r casgliad.
Sut mae modd archebu atgynhyrchiad o ddeunydd gwreiddiol ?
Mae modd archebu nifer gyfyngedig o lungopïau a sganiau o ddogfennau os yw’r Archifydd yn cytuno.
Pam na allaf ddod o’r hyd i’r hyn dwi’n chwilio amdano ?
Wrth chwilio’r gronfa ddata fe ddowch o hyd i’r union eiriau a ddefnyddir yn y catalog; felly, os nad ydych wedi dod o hyd i rywbeth mae’n syniad defnyddio termau perthnasol eraill.
Mae enwau pobl a lleoedd yn amrywio o ran eu sillafu ac mae’n werth sillafu ambell air mewn ffordd wahanol er mwyn dod o hyd i’r cofnodion cywir.
Cofiwch mai canran fechan o’n casgliadau sydd ar y gronfa ddata ar hyn o bryd. Cysylltwch â’r Archifdy yn uniongyrchol os hoffech ragor o wybodaeth am ein casgliadau. Hefyd, mae modd chwilio drwy’r rhan fwyaf o’n casgliadau ar wefannau Archifau Cymru http://archifau.cymru/ a’r Archives Hub http://archiveshub.ac.uk