Sut i chwilio’r gronfa ddata


Chwiliad syml


Y ffordd symlaf o chwilio'r gronfa ddata yw rhoi term yn y blwch ym mhen uchaf y sgrin ar y dde a chlicio ar y botwm chwilio drws nesaf iddo.


Bydd y chwiliad yma yn chwilota drwy’r meysydd “Teitl” a “Disgrifiad”


Mae modd cyfuno termau chwilio yn eich chwiliad syml drwy ddefnyddio “Boolean”


+ sy’n cynrychioli “a”, sy'n golygu fod rhaid i’r chwiliad syml gynnwys y gair yma

- sy’n cynrychioli “nid”, sy'n golygu fod rhaid i'r chwiliad eithrio’r gair yma

| sy’n cynrychioli “neu”, sy’n golygu y gall y chwiliad gynnwys y gair yma


Rhoddwch un o’r symbolau hyn o flaen gair neu frawddeg i’w weithredu. Os na ddefnyddir symbolau tybir mai’r “Boolean” “a” sydd i’w ddefnyddio.


e.e. Bangor –Prifysgol.


Ceir chwiliad am y gair Bangor ac eithrio’r rheiny â’r gair Prifysgol.


Wrth deipio enw’r maes ac yna colon a therm chwilio, dim ond yn y maes yna y gwneir y chwiliad. Os na nodir y maes, chwilir ym mhob maes am y gair.


e.e. Teitl:Bangor.


Chwilio am y gair Bangor yn y maes “Teitl” yn unig.


e.e. Bangor.


Chwilio ym mhob maes am y gair Bangor.


Mae’n bwysig nodi’r enw / ymadrodd cywir er mwyn cael y canlyniadau gorau posib..


e.e. Teitl: Prifysgol Bangor.


Chwilio am gofnodion efo ”Prifysgol” yn y maes teitl a “Bangor” ym mhob maes.


e.e. “Prifysgol Bangor”.


Gyda dyfynodau mae’n chwilio am y geiriau Prifysgol Bangor gyda'i gilydd ac yn y drefn yma ym mhob maes.


e.e. Prifysgol Bangor.


Chwilir am y geiriau “Bangor” a “Prifysgol” ym mhob maes.


Chwilio manwl


Os ydych yn credu bod chwiliad cyflym yn debygol o ganfod gormod o ganlyniadau, cliciwch ar “Chwilio’r catalog”. Bydd hyn yn rhoi'r dewis i chi chwilio meysydd penodol yn y gronfa ddata, yn ogystal ag "unrhyw destun". Mae rhai o'r blychau ar y dudalen chwilio fanwl yn cynnwys dolen "mireiniwch y chwiliad". Bydd clicio ar hon yn rhoi dewisiadau chwilio ychwanegol i chi.


Drwy ragosodiad, cymerir yn ganiataol mai’r Boolean “a” a ddefnyddir, e.e., os rhoddwch “dyddiadur” yn y teitl a “Llangefni” yn y disgrifiad dim ond cofnodion gyda’r ddau air ynddynt a ddarganfyddir. Ni ddangosir y cofnodion gydag un o’r geiriau hyn.


Lledu eich chwiliad


Bydd chwilio yn dod o hyd i'r union eiriau a ddefnyddiwyd yn y catalog yn unig. Felly, os nad ydych wedi dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano, mae'n aml yn well rhoi cynnig ar nifer o dermau cysylltiedig. Felly, os ydych yn chwilio am ddeunydd ar “addysg”, rhowch gynnig ar eiriau cysylltiedig fel “ysgol”, “ysgolion”.


Gellwch hefyd chwilio am ran o air drwy ddefnyddio nod-chwilio (*) - felly bydd “ship*' yn codi 'ship', 'ships', 'shipping', ac unrhyw air arall sy'n dechrau gyda 'ship-'.


Nodwch nad yw ein catalogau wedi cael eu cyfieithu i iaith arall. Mae rhai ohonyn nhw yn y Gymraeg (os Cymraeg ydy iaith y cofnodion gwreiddiol), ac mae rhai yn Saesneg.


Canlyniadau chwilio


Caiff canlyniadau eich chwiliad eu harddangos mewn tabl.


Cliciwch ar gofnod yn rhestr y canlyniadau i weld disgrifiad mwy manwl. Bydd siart hierarchaidd uchod yn dangos lleoliad y cofnod yn ei gyd-destun yn y casgliad. I ddychwelyd i drosolwg y canlyniadau chwilio, defnyddiwch y botwm “nôl” ar eich porwr.


Os hoffech weld y cofnod yn ei gyd-destun hierarchaidd (h.y. sut mae'n gysylltiedig â chofnodion eraill yn y casgliad), cliciwch ar “cyfeirnod”

Pwerir gan CalmView© 2008-2012