Disgrifiad | Cafwyd gwylnos yng Nghefniwrch cyn i R.M.W. gychwyn am y Gorllewin (gwel ASH/39 B t.3). Ni ddaeth llythyrau mwy diddorol o'r America i Gymru erioed, oherwydd bod Ab Morydd yn dipyn o fardd, yn ddyn a llygad ganddo, yn gywrain gyda gwaith llaw (gwel y mapiau), a thipyn go lew o nwyd Pentre Eirian a'r Morrisiaid ynddo. Ceir ynddynt ddisgrifiadau byw iawn o gyflwr y wlad newydd, o'r cnydau a'r prisoedd, o hynt Cymry yn y Gorllewin, am grefydd, am fanion teulu, etc. Dylid eu darllen drwyddynt yn fanwl, fanwl. Nid oes wybod sicr pa bryd y bu R.M.W. farw; beth bynnag, yr oedd yn fyw yn 1882 i ddweud ffarwel wrth William ei frawd ar y 5 o Hydref y flwyddyn honno (ASH/45) |