Teitl | A. Llyfr addunedau capel y Talwrn, 1825-1839. tt. 1-79. (ar tt. 40-42 cyfleir enwau'r bechgyn a'r 'lodesi' oedd yn dod i'r seiat yn 1830). Enwau'r Parch John Prytherch a'r Parch Cadwaladr Williams Penceint ar ben rhestr yr aelodau (gwel Meth. Môn, tt. 96, 178, etc.).
B. Enwau'r llefarwyr a ddeuai i'r Talwrn (1825-1842). tt. 1-45. Nid yn unig yr enwau ond y swm a dalwyd iddynt am eu gwasanaeth, am fwyd a diod hefyd, am 'gwrw a tobacco', am 'ganhwylla a phibelli', am dê o 1835 ymlaen |