Disgrifiad | Trysor gwerthfawr dros ben yw'r Dyddiadur hwn (tt. 1-207). Rhai tt. wedi ru torri allan rywbryd (e.g. rhwng 82 a 83). Son am daith i India'r Gorllewin, gaeaf 1829, geir ar tt. 3-10, oherwydd gwendid ei iechyd, dybygem (ei frawd Hugh hefyd yn Demerara ar y pryd). Dod yn assistant chemist yn 1831 (17). Darlun go dda o fywyd Amlwch: meddwi, cythrwfl, ymladd, yspeilio tai (tt. 40-44). Gwr ieuanc deallus, sylwgar: son am seinio petisiwn i gael Amlwch ynghlwm a Biwmares (17); drylliad y Rothsay Castle, hanes manwl (23-25); mynd i gael golwg ar waith cywrain gyda chopr Mynydd Parys (27); damwain gas wrth wneud arbrofion phosphorus (85-86). Pell o fiod yn fendwyaidd a surbwch, fel y prawf ei sgwrs hir a chapten milwrol o'r Iwerddon ar ei ffordd i Lerpwl (168), ciniawa gyda'r cotton dealers yn y dref honno, (heb fod yn rhyw hapus iawn yn eu cwmni). prynu llyfrau yn rhad yno (170-176). Ymdrochi'n aml, a cherddwr mawr.
Diddorol yw'r manion hyn, ond dibwys o'u cymharu a'i brofiadau ysprydol, ei anian at hunan-ymholiadau hir, ei wyleidd-dra a'i osgo bruddglwyfus (gweler yn arbennig tt. 45-65, 103-110, 112-116, 163-165). Dechreu pregethu, yr ias am fyn'd yn genhadwr yn datblygu - gwrando ar Jones o Fadagascar yn siarad yn Amlwch, 2 Tach., 1832, a chael ei ddwysbigo ganddo (95-99); cael ymgom a'r Parch William Roberts, Amlwch (129); mwy eto am yr ysbryd cenhadol (135-138); John Elias yn addaw pob cymorth iddo (143, 153-154, 179); ysgrifennu at awdurdodau'r L.M.S. a chael ateb (158, 205); gwrthwynebiad ei fam (205-207).
Dechreuodd ymroi iddi i baratoi at waith yr efengyl, a gwaith cenhadwr (os cai wên a bendith yr awdurdodau) - darllen Ancient Historys Prideaux, pregethau Porteous a Wilson, esbniad Scott, a rhyw chwarae hefo'r iaith Ladin. Sut bynnag, pa un ai ei wendid fel ieithydd neu ei wendid cordd a fu'r achos, gwrthodiad fu ei ran, a dwyed John Pritchard mai y gwrthodiad hwnnw oedd un o'r achosion i'r Methodistiaid ymadael a Chymdeithas Genhadol Llundain.
Pregethodd lawer ym Môn. Tebyg mai afrwydd oedd ri barabl a sych ei ddawn - serch hynny, dywed ef yn aml bod yr awel o'i du, "freedom of delivery, but not pathos" (gair mawr ganddo). Wrth gwrs, bu yng nghwmni John Elias ddegau o weithiau, a chlywodd Christmas Evans yn pregethu yng Nghymanfa Caergybi, oddiar Heb. XVII, 19 (111). Diddorol yw ei glywed yn disgrifio pregethu yn ysgubor y Frigan a defnyddio'r injan wyntyll yn bulpud (177). Tystiolaeth dda i eirwiredd atgofion Meth. Môn am odfa'r Gaerwen yw tt. 141-143 yn y Dyddiadur hwn, lle y pregethodd O.J.R. o flaen William Roberts, Amlwch.
Ceir cipdrem yn y llawysgrif hon ar un o'r goreuon - gŵr ieuanc diabsen, diregrith, gwylaidd, gostyngedig, diamheuol dduwiol. Os y cholera a'i dygodd ymaith, prudd yw sylwi arno yn disgrifio ofn a dychryn y pla hwnnw ym Môn (31, 34-37, 81). Ynghanol difrifwch ysprydol y dyddiadur, ffres yw ei glywed yn ymgroesi rhag eillio'i farf ar y Saboth (138), a chael cyngor doeth i beidio llosgi ei fysedd drwy ysgrifennu i'r papurau newyddion (133-134, 148-150).
Nid amhriodol sylwi ar y cyfeiriadau teuluaidd - symud o Dŷ Fry i Lanfugail (18); doethineb John ai frawd, oedd yn byw yn y Graianfryn o flaen y Parch W. Williams; Hugh am dymor yn Demarara, a symud oddiyno i Van Diemen's Land (20, 88-92, lle y gwelir copiau diddorol o'r lythyrau); William yn ddoctor, Lerpwl a Llangollen. Cyfweld ar y tudalen gyntaf i gyd farc llyfr o'i eiddo a gafwyd yn y Tŷ Calch, ac enlyn i het (ei waith ef, efallai) |
AdminHistory | Nai i Mr Prytherch oedd ef, ei dad yn frawd i Mrs Prytherch - geilw Mr P. yn ewythr (t. 102) a B.P. (Betty Prytherch) yn gyfnither (155). Gwelir tipyn am dano ym Methodistiaeth Môn, tt. 135, 199. Dywedir ei fod yn assistant gyda Mr William Hughes y fferyllydd o Amlwch - meddwl myn'd yn genhadwr - cael ei wrthod gan Gymdeithas Genhadol Llundain - symud i Dundee - marw o'r cholera. Gwr gwahanol iawn i Owen Rowland, Hebron (199). |