Disgrifiad | Ysgrifennwyd y rhan fwyaf yn ôl pob tebyg, gan Miss Elizabeth Prytherch, y ferch hynaf; y lleill gan ri thad; weithiau canfyddir ôl trydedd llaw. Braidd yn siomedig yw eu cynnwys - gwerthu ymenyn, digwyddiadau ym myd y da a'r moch. Enwau pregethwyr capel y Talwrn a'u testynau, perthnasau yn ymweld, etc. Rhai cyfeiriadau teuluol pwysig - at farw Elizabeth Rowland, un o deulu T? Fry, perthynas felly i O.J. Rowland (1859, 5 Ion. a 29 Ebrill), at ymadawiad Morris mab T? Calch, (20 Ebrill, 1857), at ymadawiad dau fab arall i'r America (22 Ebrill, 1868). Ar dro daw entries anodd eu deall - edrycher 1858, 3 Ion. a 28 Mai. Ni cheir rhyw lawer o oleuni pellach ar yrfa J.P. yma dim ond ei arosiad yn Llundain (1850, 4 Ion - 5 Mawrth), yn gwerthu rhyw lyfrau ym Miwmares (1859, 25 Tach.), ac yn ysgrifennu ei nodiad diweddaf yn nyddiadur 1864 (1 Chwefror). Yn 1866 ymddengys i Miss Prytherch symud o'r Dyffryn i Blas Gwyn (gwêl nodyn ar gyfer 2 Awst) |