Disgrifiad | Ysgrifennwyd ef, yn Haweis Town yn Papara, a'r cyfeiriad arno yw:- The Rev John Hughes, Pont Robert ab Oliver, etc. Llythyr trefnus, hynaws, urddasol. Doniol ydyw wrth ddisgrifio un o frodorion Mangavera yn dysgu'r wyddor drwy lunio llythrennau ar y tywod (t. 2). Ar t. 3 dywed am ei waith yn ysg. hanes ei waith yn Tahiti, cyfieithu'r Salmau i'r iaith frodorol, saernio Geirlyfr hyd y llythyren p, etc. A gyhoeddwyd y llythyr hwn erioed? Am yrfa John Davies, gwel J.H. Morris: Hanes y Genhadaeth Dramor, 427-428. |