Rhif Cyf AmgASH/2/5-115
TeitlPapurau i gyd yn script O.J. Rowlands, Ty Fry, Pentraeth, y gwr ieuanc (yn ôl Methodistiaeth Môn) a wrthodwyd i'r gwaith cenhadol gan Gymdeithas Genhadol Llundain
DisgrifiadI ddeall yn briodol bwysigrwydd y tudalennau, rhaid darllen drwyddo'n ofalus ASH/2/16 yn y casgliad hwn. Yno ar tt. 1-99 ceir ei ddyddiadur o 1829 i ddechreu Tachwedd 1832; ar tt. 101-207, barhad o'r dyddiadur (diwedd Mehefin 1834 i 22 Hydref yn yr un flwyddyn). Note-book cymharol fychan yw MS. 16. Ysgrifennodd ei ddyddiadur a'i brofiadau am fisoedd olaf 1832, (dim ond un tudalen) y cwbl o 1833, a hanner cyntaf 1834, ar dudalennau rhyddion foolscap, a dyna gyfrif am ddigwydd bod ei waith ef yn y rhan hon o MS. 2. Pwysig iawn, er mwyn cael golwg eang sicr ar ansawdd meddwl y cyfaill ieuanc siomedig hwn, yw dal MSS. 2 a 16 yn wyneb ei gilydd. Ar tt. 5-7 ceir llythyr oddiwrtho (Amlwch, Ebrill 4, 1831) yn gofyn gwestiynau ynghylch yr efengylydd Luc, etc., mewn Cymraeg sobor o sâl, ac yntau wedi ei eni a'i fagu ym Môn. Ar tt. 9, 11, gwelir esiampl o'i waith yn gwneud biliau i Mr Hughes y chemist; ar t. 12 y dechrau'r dyddiadur am 1833. Daw'r un res o fyfyrdodau hirion pruddglwyfus, yr un dadansoddi blin ar ei deimladau crefyddol, ag a geir yn 16. Nid oes ddadl am ei unplygrwydd a'i dduwioldeb, a cheir darnau weithiau yn eco cryf o frawddegau Philip Henry, a throion ymadrodd tebyg arthur i Henry Maurice, "apostol Brycheiniog" (serch hynny, nid oes dim sicrach na chafodd O.J.R. gyfel erioed i ddarllen dyddiaduron y ddau Biwritan a enwyd). Drwy'r cwbl, rhwng yr ysgrif welw a'r hunan-ymholiad di-ddiwedd myn'd yn fwrn ar y darllennydd a wna'r dyddiadur, a rhyw hanner-dybio bod O.J.R. yn dipyn o fursen crefyddol (prig) yn fachgen rhy dda i'r byd a'r bywyd hwn.

Gorau'r modd, y mae ochr ddynol iawn iddo hefyd. Cyfeirir at ei ymadawiad a siop y druggist er mwyn iddo astudio a pharatoi pregethau (Mai 31, 1834), at farw ei frawd Thomas (18), at farw Richard Lloyd, Biwmares (83). Ym Medi 1833 aeth i Sassiwn Caernarfon, ond ni chlywodd fawr ar y pregethau, er bod John Elias yn un o'r pregethwyr (44); ym Mehefin 1834 aeth ar gefn ceffyl i Sassiwn Bala, a rhydd hanes digon diddorol o'r daith (90-93). Nid yw'n amddifad o'r gallu i feirniadu ychwaith: rheolau tyn dewis blaenoriaid (70); gwendid seiat Amlwch pan oedd William Roberts a Thomas Jones i ffwrdd (74); gwamalrwydd torfeydd y Bala, a'r gwegi o gyrchu i Sassiynau pan oedd cystal moddion gras yn ymyl cartref (96). Gair mawr iawn i Henry Griffith Llandrygarn; bu yn ei wrando ddwywaith un Saboth (74).

Daw'n agosach atom wrth ddisgrifio ei ymweliad a'r Vitriol works (41), a Phlas Glynllifon (45), a chwarel fawr Llanberis (46).

Y mae'r dyddiadur yn llawn o son am y gwaith cenhadol - darllen llyfr Buchanan, y Missionary Chronicle, anniddigrwydd ei fam yn wyndeb ei golli, a John Elias (80, 98, 99, 101). Ar tt. 100-107 ceir drafts o'i lythyrau at ysgrifennydd Cymdeithas Genhadol Llundain; ar tt. 108-115, drafts o'i atebion i'w hamrywiol ofyniadau (dyddiedig 12 Medi, 1834). Ar t. 113 y mae'n ymrwyno'n bendant i wrando'n ufudd ar farn meddygon y Gymdeithas. Paham y gwrthododd ef? (Cymharer Bangor MS. 921 (92-93) - dau lythyr oddiwrtho at y Parch W. Roberts, Amlwch).

Dywed Methodistiaeth Môn (135, 199) iddo symud ar ôl hynny o Fôn i Dundee i fasnachu, lle y daeth yn wr parchus iawn: cadarnheir hynny i raddau helaeth ar tt. 116-117 yma, lle y gwelir dros ddeugain o brif fasnachwyr Dundee yn tystio y gwnaethai "manager or agent for an Assurance Company" dan gamp (3 Awst, 1841). Ymddengys i'w frawd John fyn'd ato i fyw ar ôl ymadael a'r Graianfryn - a buasai'n ddiddorol gwybod pwy oedd y Griffith Davies o Fangor a alwodd heibio iddynt ddechreu Mehefin 1845 (gwel 176) (yr oedd y Griffith Davies hwn yn briod a'u chwaer Kate ers 6 mlynedd - gwêl 1A, t. 8)
Dyddiad19eg ganrif
    Pwerir gan CalmView© 2008-2012