Rhif Cyf AmgASH/49
TeitlLlyfr Huw Huws, y Bardd Coch o Fôn
DisgrifiadYr oedd iddo unwaith 110 o dudalennau (A a B i bob tudalen); yn nhreigl amser collwyd rhai a thorrwyd tudalennau eraill ymaith yn bwrpasol: beth bynnag, nid yw 35, 44, 53-55, 59, 65, 68-69, 72, 76-85, 92, 93, 100, ynddo yn awr. Bu iddo amryw o berhenogion heblaw y Bardd ei hun: gwelir ynddo ysgrifen David Hughes (2), a Lewis Hughes (2, 110) ei feibion; Richard Owen (2); Williams Jones o Lanerchymedd (22b, 26b); J.W. Prisiart, Plas-y-brain (lawer gwaith); Morris Williams, Plas Goronwy (ii, 1b, 101a, 106a). Ar td. 102b, 103b, gwelir llofnod Peter, mab Morris Williams. Nid oes sicrwydd ai oddiwrth wr Plas-y-brain y cafodd M.W. ef ai peidio. Ond dengys enw M.W. yn eglur ddigon pa fodd y daeth llyfr y Bardd Coch i lyfrgell Ty Calch.

Pwysig iawn yw galw sylw at nodiad J.W. Prisiart ar t. 58, lle y dywed bethau digon diddorol am dad y Bardd, am flwyddyn ei farw, am ei allu fel mesurydd tir. Ac at nodiadau y Bardd ei hunan ar t. 64b amdano ei hun a rhai o'i blant, nodiadau sydd yn gwahaniaethu mewn pethau bychain oddiwrth dabl J.E. Griffith yn y Pedigrees, t. 101. Y nodyn pwysicaf i gyd yw geiriau J.W.P. ar td. 34b:- "Hugh Hughes o Lwydiarth, neu'r Foel, alias y bardd coch o Fôn, a 'sgrifennodd y Llyfr hwn". Gwir yw y geiriau ar wahan i'r cynnwysiad a ail-ysgrifennwyd gan J.W.P. (i, 2b.), ambell i nodyn beirniadol gan yr un gwr (36a); englyn ganddo ef (43b) a chan un arall (45a); nodiadau ar Owen Gruffydd (6a, 7a), ar farw John Prichard Prys (26b), ac am gyswllt Michael Prichard â William Bulkeley o'r Brynddu (34a).

Cyfoesai'r Bardd a'r Morysiaid, ac a Goronwy Owen: siom go fawr ym nad yw Anerch y Bardd yn y MS. hwn, yr Anerch a ddenodd Oronwy i ysgrifennu ei Gywydd gorchestol - "Hiraeth am Fôn" (ar td. 86a - 88a fe welir darn mawr o Gywydd y Farn). Copiau o weithiau'r cywyddwyr yw cordd y llyfr; un o'r cywyddau mwyaf diddorol yw un William Glyn o'r Glynllifon (40-41) "i'w wraig ei hun". Ef, yn bur sicr, oedd y William Glyn a fu'n Uchel Siryf sir Gaernarfon yn 1562 (Pedigrees, 172) ac a briododd y tro cyntaf ag un o Fostyniaid Gloddaeth - ll'wgais o'r mowr - drais maith lle claddwyd ger llaw Cloddaith (40b).

Pwysig cofio hefyd y cynnwys y MS. lawer o bethau digon diddorol heblaw coiau o gywyddau; e.e. cowntiau am gartrefi Llifon, Talybolion a Thwrcelyn (td. 67b, 70a, 70b); manylion am bumtheg llwyth Gwynedd, catalog o siryddion Môn o 1541 i 1733 (gwêl o td. 90b ymlaen).
Dyddiadd.d.
    Pwerir gan CalmView© 2008-2012