Rhif Cyf AmgASH/56
TeitlYsgrifau amrywiol ynglyn â John Prytherch a'i deulu. Llythyrau ato oddi wrth ei blant, oddi wrth ei fordyr yn y ffydd; llythyrau at y teulu pan fu J.P. farw yn 1864
DisgrifiadLlaw wyres J.P., gwraig y Parch Dafydd Rees, Capel Mawr, a welir yn 1-12, yn thoddi bras olwg ar yrfa plant Ty Fry (fe gofir mai merch yr hen John Rowland, Ty Fry, oedd gwraig J.P.) dywaid bethau diddorol iawn amdanynt, yn enwedig am gyfoeth a gwychter y teulu yn oes y ddau John Rowland cyntaf, am feddalwch y trydydd John, am y mudo digalon yn 1831, am y garwriaeth rhwng Elizabeth Rowland a John, mab Richard Llwyd o Fiwmares, am ddiflaniad Hugh yn Awstralia, am siom Williams - pwysig ryfeddol yw cofio am y "ten children of Ty Fry" y cyfeirir atynt yma, mai plant yr ail John Rowland oeddynt (gwêl + Ef a ysgrifennodd item 29 yn y casgliad hwn Ashby 1 A, td 8). Daw'r bras olwg i derfyn ar td. 4, dim ond pump wedi eu crybwyll, a'r mwyaf diddorol ohonynt i gyd (Owen) a dim gair amdano, sef awdur y dyddiaduron (MSS. 2, 16). Ar td. 5-12 ceir hanes byr ond cryno am deulu J.P. hyd at 1883. Llaw W.P. Williams a welir yn 13-18: nodiadau mewn pensil, mân a manwl, a gorffowyd ganddo ymhellach ymlaen mewn argraff (I A). Pur ddigyswllt a chorff y MS. yw item 19, sef gwaith Mr R.O. Williams, Bryn Glas, Llaniestyn (Bangor, wedi hynny) yn profi ei fod yn disgyn o William Prichard, Clwchdernog.

Yn 21 ceir manylion pwysig am fferm Ty Calch yn 1776; yn 22 dabl taith bregethu J.P. yn 1811; o 23 i 26 ceir llythyrau gwir ddiddorol, yn enwedig llythtyr Elin ei chwaer at J.P. (Chwefror 10, 1829), yn profi'n eglur iawn mai nidar ei ben ei hun yr oedd John Elias wrth wrthwynebu rhyddfreinio'r Pabyddion (25). Llythyrau J.P. oddiwrth Richard Llwyd a'i fab John yn 27-30, un ohonynt (28) wedi ei gyhoeddi yn y Drysorfa am 1849 (t. 347). Dau nodyn côfam yr Elin a ysgrifennodd 25, yw 31 a 32 (bu farw yn Aberdyfi, Gorff., 1834). Dau lythyr at J.P. o'r Bala yw 33 a 34, un oddiwrth y Parch D. Charles yn disgrifio'r ysgol newydd a fwriedid yno (Gorff. 24, 1837), ac un arall (Hyd. 19, 1838), llym a beirniadol oddiwrth "Jane Davis" yn cyhuddo J.P. yng Nghymdeithas Rhuthyn iddo ochri gyda Threfeca yn erbyn y Bala, - "heathenish country" sydd o gwmpas Trefeca, meddai hi. [Tebyg mai chwaer-yng-nghyfraith John Davies, Fronheulog, oedd Mrs Davies; ar ôl claddu ei gwr, fe ail-briododd a'r Dr Owen Richards, a fu unwaith yn genhadwr yn Cassia, ond a alwyd adre']. Llythyrau yn codi o ymweliad J.P. ag achosion M.C. Llundain yn 1843 yw 36-38. Fel y gwyddys, ymddangosodd llun J.P. yn yr Evangelical Magazine am Fedi, 1850 (anrhydedd go fawr yn y dyddiau hyny i bregethwr o Gymro) - paratoi am y llun hwnnw yw swn 40 a 41.

Llythyr oddi wrth Syr Hugh Owen yn dweud am farw ei fam, merch Owen Jones y Cwirt, Llangeinwen, yw 44 (2 Hyd. 1862). Yn 1864 y bu fawr J.P., yn 90 mlwydd oed: llythyrau cydymdeimlad a'r teulu yw 45 a 46, y cyntaf oddiwrth y Parch William Griffith, Caergybi, a'r ail oddiwrth y Parch William Roberts, Amlwch. Yn 1870 bu farw ei ferch Elizabeth: amryw lythyrau cydymdeimlad (mewn un llythyr) yw 49, oddwirth y perthynasau lu oedd iddi yn America (Detroit)

Y peth mwyaf diddorol o lawer yn y rhelyw, 50-57, yw 54, sef llythyr pddi wrth y Parch. Cadwaladr Williams, Penceint, at Gymdeithas Gerddorol y Talwrn (8 Mai 1838), yn dangos y cydymdeimlad llawnaf a'r gwaith. Agosaf ato yn 55, apel oddi wrth Dr Roberts o Fynydd y Gof, Ebenezer Evans a dau arall o flaenoriaid Bodedern am help i roddi addysg i Thomas Charles Cowper, Sais ieuanc a ddaeth i fyw i'r ardal. Rhydd y Doctor hanes rhamantus iawn yn 55 o ddyfodiad y Sais i'r lle.

Sgript Mrs Rees, Capel Mawr, yr un sgrip a 1-12 ar y dechrau yw 56-57. Ym myd yr Annibynwyr yr ydym erbyn hyn : testunau cyrddau pregethu yn Capel Mawr - Hydref 1872-Hydref 1877. Ioan Pedr yn ol pob tebyg yw'r Don Pedro sydd ar waelod 56.
Dyddiad1776-1883
Extent57 eitem
    Pwerir gan CalmView© 2008-2012