Disgrifiad | Man gardiau yw 1-4; hanes cwrdd cangen y Feibl Gymdeithas yn Wilderness Row (Ebrill 9, 1819) yw 5, apêl am fwy o gymorth o Gymru i achosion Llundain yw 6, 34 yn ei arwyddo; petisiwn yn erbyn rhyddfreinio'r Pabyddion yw 7, papur cyflwyn Henry Richard o Dregaron i Lundain yw 8 (18 Awst, 1830), cylchlythyr yn ffafr codi cpel newydd i'r M.C. "in the West End of London" yw 9 - Griffith Davies, F.R.S. yn drysorydd i'r mudiad, a'r ddau Annibynwyr enwog, Caleb Morris a'r Dr Jenkyn o Goleg Coward, yn rhoddi deheulaw cymdeithas iddo (Mehefin, 1850). [Yr oedd yn amlwg iawn fod G.D. ar y blaen gyda mudiad sefydlu achosion yng Ngorllewin Llundain, er nad yw Mr Thickens yn cyfeirio ato (Jiwbili Jewin, 1920)].
Yn dilyn daw cyfres o lythyrau:-
10. Dau lythyr oddiwrth John Elias (copiau yn unig), dyddiedig Chwef. 28 a Medi 23, 1801.
11. Llythyr oddiwrth J.E., Medi 23, 1801.
12. Llythyr oddiwrth J.E., Mawrth 26, 1829. " Gadewch i mi gael llinell oddiwrthych am agwedd a theimladau y werin yn y Ddinas, yn wyndeb fod y Pabyddion yn debyg o gael eu cais, &c.".
13. Llythyr oddiwrth M. Evans, gwr mewn helbul a thlodi; cael galwad oddiwrth eglwys, ac anhawsterau'n codi. Son am Dr Lewis (George?) a Gwrecsam. Dim dyddiad. Anodd dywedyd pwy oedd Evans.
14. Llythyr oddiwrth James Hughes yr Esboniwr, o Lerpwl, 27 Awst, 1829. Cyfeirio at brofedigaethau masnach Thomas Jones - "Medraf gydymdeimlo â chwi yn dda iawn, oddiar hen brofiad o'r un cyffelyb dywydd". Darllenner ei Gofiant gan Rhuddwawr, 103-105, ac yn enwedig lythyr 24 yn y gyfres hon.
15. Oddiwrth James Hughes eto - yn ôl pob tebyg; darn ydyw, ac heb lofnod. Dyddiad - 16 Medi, 1836.
16. Eto. Medi 19, 1836.
17. Eto. Nodyn am fenthyg Poole's Annotations gan Mrs Jones. Y dyddiad yw Mai 4, 1837, a chyfeiriad yr Esboniwr ar y pryd oedd - 4, Stringer Row, Rotherhithe. Yr Annotations ar yr H.D. oedd y rhain gan fod yr Esboniad ar y T.N. wedi ymddangos er 1835. Gwelir oddiwrth 58 (27) iddo gael eu benthyg ym Medi 1834 hefyd.
18-19. Llythyrau oddiwrth Owen Jones y Gelli (Chwef. 1, a Hydref 13, 1827).
20. Llythyr oddiwrth Thomas Jones, gwr cyntaf Mary Prytherch, at William Williams, a ddigwyddodd ddod yn ail wr iddu (Mehefin 17, 1826). Sôn am yr anhawster i gael pregethwyr o Gymru i ddod i Lundain.
21. Llythyr oddiwrth John Lewis, un o bregethwyr M.C. Llundain, o Garnachenwen, Sir Benfro (30 Gorff., 1827). Cwyno drwg ar ei iechyd. Gwêl gyfeiriadau ato yn 20.
22. Llythyr oddiwrth y parch Edward Morgan o Syston (Medi 21, 1846). Diolch am gopi o bregeth Elias ar farw Sior III. Efallai mai at W.W. yr anfonwyd ef (ni chadwyd yr amlen). Cp. 58 (40).
23. Llythyr oddi wrth Walter Morris, mab Ebenezer Morris, ynghylch marw ei dad (dyddiad Awst 20, 1825). Nid yw Cofiant Morris,sef yr ysgrif yn y Gwyddoniadur gan Thomas ei fab, yn son dim am y Walter hwn. Gwybodaeth lawn amdano yn y Drosorfa, Ionawr 1840.
24. Llythyr oddiwrth Walter Morris at W.W. ynghylch anhawsterau James Hughes. Fe welir hwn yn ei grynswth yng Nghofiant J.H., 103-105, ond yr Ol ysgrif (angofiwyd hwnnw). Dyddiad - Medi 12, 1817.
25. Ebenezer Morris at T.J., Hydref 30, 1818. Cynghorion i'r eglwys.
26. Oddiwrth William Morris, Cilgerran, Mehefin 27, 1820.
27. Oddiwrth William Morris, Cilgerran, Mai 14, 1829.
28. Oddiwrth Ebenezer Richard, Tregaron, Medi 21, 1830. (Gwêl gyfeiriadau at hwn yn 58 (14, 15)).
29. Cywydd gan Robert Owen (Eryron Gwylt Walia) ar farw Mrs Davies, Ty Capel Jewin (y dyddiad wrth ei gwt yw Ebrill 18, 1835).
30. Llythyr oddiwrth y parch Owen Williams, Caergwrle (22 Gorff., 1818).
31. Darn o lythyr at Mrs W. o Pembroke Dock, Awst 20, 1850. Ai John davies oedd yr awdur (Gwêl 58 (35)).
32. Darn o lythyr (dyddiedig o Cape Town, 18 Mawrth, 1819) oddiwrth Evan Evans, un o'r cenhadon Methodistaidd eu tras a aeth allan i Dde Affrica o dan aden y London Misionary Society. Aeth y darn ar goll a gynhwysai ei enw; ond penderfyna'r cyfeiriad at Ann ei wraig a'i fab Thomas Charles mai Evan Evans ydyw i sicrwydd. Darlun da iawn o fywyd crefyddol Bethelsdorp.
33. Braslun o fywyd John Rynd (1767-1816) |