Disgrifiad | Ochr A tt. 1-15 Mân sylwadau diwinyddol tt. 16-17 Llythyr oddi wrth Robert Griffith at gyfaill, 14 Rhagfyr 1842. Profedigaethau; torri'r wraig o'r seiat; diffyg tynerwch Richard Jones o'r Wern. Torri'r Saboth oedd pechod y wraig "wrth fynd i anfon cyfeillas filldir o'r dref ar ôl yr ysgol". Dwy filldir meddai rhai. Tua 1832-1833 bu hyn. tt. 18-19 Parhad. R.G. yn rhoddi Gair Duw yn uwch na'r Cyffes Ffydd, ac yn gweled y Corff wedi cyfnewid er gwaeth er pan beidiodd offeiriaid ac Independiaid fod yn aelodau ohono.
Ochr B tt. 1-9 Nodiadau ar destunau Beiblaidd (o waith Trapp); dyfyniadau o gyfnodolion crefyddol Seisnig - talfyredig gan Robert Griffith tt. 10-13 "Hanesion a glywais a phethau a welais yn fy amser fy hun", 1841 tt. 14 Nodiadau ar Phillipiaid iii, 20 tt. 15-16 "Ychydig o hanes digwyddiadau yn fy amser fy hun". Trafferth (1794-5) gyda Mr Corbett o Ynysmaengwyn; dirwyo pregethwr Methodus a gwr y tŷ lle y pregethai am nad oedd y tŷ wedi ei drwyddedu; peth erledigaeth; dod allan ohoni; Llywodraeth Lloegr a'u cilwg ar Ymneilltuwyr adeg y rhyfel a Ffrainc tt. 18-31 Hanes ysbrydol Robert Griffith. Bywyd yn Lerpwl; ofnau; gwrthgilwyr; caw cwmniaeth gyda merch ddigrefydd |