AdminHistory | Gweinidog gyda'r Methodistiaid oedd Y Parch. Edward Lloyd. Bu'n byw ym Mhrenteg, Tremadog ac yn ddiweddarach yn y Gatehouse ger Bangor.
Roedd o hefyd yn fardd ac yn awdur, ac fe'i adwaenir yn well fel Tegfelen. Cyhoeddwyd casgliad o'i waith gan Carneddog ym 1924 o dan y teitl, Tannau Tegfelyn.
Ym 1893, ymwelodd a'r Unol Daleithiau, gan hwylio o Lerpwl ar y Majestic. |