Disgrifiad | Llyfr sy'n rhestru enwau'r pregethwyr a'u cartrefi a'r dyddiadau y buont yn pregethu yng Nghapel Salem. Dyma oes aur y pregethwyr teithiol. Bu Llanllyfni fisoedd Awst a Medi 1831 yn ffodus odiaeth o glywed hen gewri Methodistaidd a dynion oedd i dyfu'n brif feistri'r gynulleidfa ym mhen y rhawg. Neb llai na Richard Lloyd o Fôn, Richard Jones o'r Wern, John Elias a John Robert, Llangwm etc. |