AdminHistory | Ganed Thomas Rhys Davies (1790-1859) yng Nghilgerran, Sir Benfro lle'r oedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr. Ym 1811, ymwelodd a gogledd Cymru ac fe'i darbwyllwyd i aros a gwasanaethu cylch Llansanffraid Glan Conwy a Rowen yn Sir Ddinbych.
Dadlodd gyda'r eglwys yng Nglanwydden ym 1820, gan adael y Bedyddwyr i ymuno a'r Wesleaid. Ail-ymunodd a'r Bedyddwyr flynyddoedd wedyn.
Priododd Ann Foulks o Landrillo-yn-Rhos ym 1814 a bu farw ym 1859 yn Abertawe. |