| Disgrifiad | Cyflwynwyd y llyfr iddo gan y Capten H. Griffiths yn Valparaiso. Cofnododd yntau hanes ei daith o Gaerdydd i Valparaiso yn y 'barque Wandering Sprite' ynddo. Yna rhoddodd y llyfr i'w dad, Hugh Davies, a defnyddiodd yntau ef i gofnodi manylion am gwch-achub Portin-llaen. Ar y cloriau a'r dalennau gweili ceir enwau Hugh Davies, Rev. O.L.Williams, Bodvean; nodyn yn dweud fod y llyfr wedi ei gyflwyno i T.D. gan Capt. H. Griffiths; nodyn yn dweud fod T.D. wedi hwylio o Gaerdydd tua Bonozirs ar y 'barque Christina', 17 Gorffennaf, 1881; a chopi o lythyr oddi wrth T.D. at Mr. Jones yn gofyn am le ar stemar. A.tt. 1-67 : 'Ychydig o hanes y barque Wandering Sprite ...' tt. 69-70 : Manylion am waeledd caseg Hugh Davies ac am y feddyginiaeth a roddodd iddo. t. 70 : Nodyn ynglyn â chais a dderbyniodd Hugh Davies am wybodaeth am Pier garag y llam.
B. tt. 1-81 : Log and account book of Hugh Davies, coxswain of the Portin-llaen lifeboat. t. 74 : Copi o lythyr oddi wrth Hugh Davies at W. Griffiths, Bryn Eden, C'von, 19 Tachwedd 1885. Ynddo mae'n gofyn am £6 i'w rhoi yng nghyfrif ei fab Thomas Davies, capten y 'barque Iris', un o longau W. Griffiths. t. 83 : Manylion am denantiaid ty Hugh Davies yn y Maes, Nefyn. |