Disgrifiad | Yn cynnwys y cerddi canlynol : Yr Hen Wlad Y Gwlith Y Pedwar Llythyr llawenhydd ddaeth i'm llaw ym Mhlas y Coed, fore Sadwrn, Ionawr 16, 1926 (2 gopi) Er coffa serchog a hiraethus am Richard Roberts gynt o Gaergors, Rhyd-ddu Hefyd, pum cerdd wedi'u cyflwyno ar ben-blwyddi amrywiol Eleri Llion, ac un cerdd ar ben-blwydd Mofi; dwy gerdd di-deitl a chasgliad o ffeithiau am Sir Gaernarfon a'i hafonydd. |
AdminHistory | Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd Y Parch Richard Roberts Morris. Fe'i ganed ym 1852 ym mhlwyf Beddgelert, Sir Gaernarfon a chafodd ei addysg yng Nghlynnog a Holt, Sir Ddinbych cyn mynychu Coleg y Bala ym 1878. Gwasanaethodd fel gweinidog yng nghapeli Siloh, Caernarfon (1881-1893) a Thabernacl, Blaenau Ffestiniog (1893 - 1924). Fel bardd, bu'n cystadlu mewn nifer o Eisteddfodau ac fe ymddangosodd rhai o'i emynau yn "Cân a Moliant. Llyfr Tonau ac Emynau" (1916). Ei emyn fwyaf adnabyddus yw "Ysbryd byw y deffroadau". Priododd â Katherine Morris ym 1882 a chawsant bedwar o blant. Bu farw ym 1935. |