Rhif Cyf AmgBRO/59/iii
Teitl32-40 : Amryw gofnodion crefyddol yn profi trâs Wesleaidd hen deulu Oweniaid y Crafnant (hynafiaid ar un ochr i ysgweier presennol Broom Hall, drwy garedigrwydd yr hwn y cafwyd y papurau hyn.
DisgrifiadHanes agoriad capel newydd y Wesleyaid yng Nghaernarfon (1826) a geir yn 32, ond nid yw testunau'r pregethau yn cyfateb o gryn dipyn i'r list yn Hanes Wesleyaeth, III, 1029. Yno ni roddir testun Edward Thomas, Tyddyn Du; ceir ef yma, sef Luc XVIII, 26. Cofnodion Wesleaidd diddorol iawn yw 33 a 34, ond nid oes ddyddiad wrthynt. Lot Hughes yn dweud sut i wneuthur burum dirwestol sydd yn 35. Yna daw amryw ddarnau o farddoniaeth a da fydd cymharu y gwawd a'r gogan ar Fedyddwyr yn 37 a 38 gydag englyn R. ap G. Ddu ar gefn 26.
Dyddiadn.d.
AdminHistoryPriododd un o ferched John Owen y Crafnant a William Davies y cyntaf a'r Cenadwr i Sierra Leone (ef yw'r William Davies a ysgrifennodd 17) gweler ei llawysgrif hi yn 39. Chwaer iddi hi, ieuangach, oedd Lowri Owen, a symudodd o'r Crafnant i'r Fronfair ger Harlech, lle y bu farw yn 1854 (amdani hi, ac am deulu'r Crafnant, gwêl J.E. Griffith: Pedigrees, td.? a Dr. Hugh Jones: Hanes Wesleyaeth Gymraeg, III, 1190-1191)
    Pwerir gan CalmView© 2008-2012