Disgrifiad | Nodiadau pur lawnion. Darlun byw ryfeddol o fywyd gwlad, ac o dir a drinid gan ffermwr cefnog deallus. Ymhlith myrdd o darawiadau diddorol, fe sylwir ar gludo gro a gwymon y môr, nôl calch o'r Foryd, prynu wyth o fatiau yng Nghaernarfon, hefyd y degwm blith, degymu yr wyn a'r ffair sâl yng Nghaernarfon. Nid â diwrnod heibio heb sylwadau ar y tywydd. Ymddengys ei fod yn mynychu capel Brynaerau yn weddol gyson. |