Disgrifiad | A. Mae'n sôn byth a hefyd am ddyled oedd arno i'w frawd ac am ddyled pobl eraill iddo yntau. Lle pur fach sydd i grefydd yn y llythyrau hyn - lle mawr iawn i helyntion tywydd, i brisiau yd ac anifeiliaid, i ddrudaniaeth y dyddiau cyn i Syr Robert Peel ddiwygio Deddfau'r Yd. Gwelir ynddynt gyfeiriadau digon diddorol - caredigrwydd y Dr Arthur Jones ato, ail-briodas y Parch. P. Bayly Williams, marw Dic Aberdaron, miri a thwf Sir Fynwy ym myd diwydiant. Ac nid yw byth yn anghofio holi am hynt ei hen gymdogion ym mhlwyf Llanddeiniolen. B. Llythyrau oddi wrth ac at amryw o deulu Cefn [Llan] Uchaf |