Rhif Cyf AmgCOET/2
TeitlGohebiaeth sy'n amlygu gwasanaeth Mr W.J. Parry i Lyfrgell Coleg y Gogledd
Disgrifiad(i) Llythyr oddiwrth W.J.P. at Miss Grace Ellis (19 Hyd., 1926), yn dangos y rhan a gymrodd i sefydlu Llyfrgell y Coleg yn 1883-1885, ac yn protestio ychydig yn erbyn y disgrifiad o'r dechreu hwnnw a roddwyd gan y Prof W. Lewis Jones.

(ii) Llythyr oddiwrth Miss Grace Ellis at y Prifathro Syr Henry Reichel (21 Hyd., 1926) yn amgen (i) - ychydig sylwadau ar bwysigrwydd cywirdeb.

(iii) Copi o'r cylchlythyr a anfonwyd allan gan W.J.P. yn mis Gorff., 1883. (Llyfrgell y Coleg).

(iv-xxiii) Atebion i'r cylchlythyr oddiwrth (ymhlith eraill) E.H. Owen, Ty Coch, R. Williams, Drefnewydd, y Parch Ellis Edwards o'r Bala, Thomas Williams o Lewesog, E.G. Salisbury o Gaer, Marchant Williams, T. Morgan-Owen. 1883-1885).

(xxiv-xxvi) Tri llythyr oddiwrth Mr J.R. Davies, Ceris (Treborth y pryd hwnnw) yn trefnu gyda W.J.P. i gynnal cyfarfodydd a chasglu arian i gael cartrefu Coleg y gogledd (Mawrth, 1883).

(xxvii) Rhestr o dors ddau gant o gyfrolau oddiwrth W.J.P. i Lyfrgell Coleg y Gogledd (24 Gorff., 1908)
Dyddiad1883-1926
    Pwerir gan CalmView© 2008-2012