Rhif Cyf AmgCOET/42
Teitl"Gwaith Barddonol William Jones, shop, Bryngwran Môn, Wedi ei gasglu yn y ffurf bresenol Gan ei Weddw Alarus a'i Fab Hiraethlon …. Gorff.21, 1879"
DisgrifiadLlu o englynion beddargraff a chaneuon duwiol didactig. Ar t.1, ceir "cynnwysiad" o'r marwnadau a gawsant eu hargraffu; ar t.ii, ymddengys "eglurhad" gonest a theilwng iawn ei fab. Yna dilyn 123 o dudalennau mawrion llydain, a'r caneuon gwreiddiol wedi eu pastio arnynt.

Efallai mai'r darn mwyaf diddorol yw'r un ar t.57 - "Marwnad i William Williams Llanerchymedd" - gyda nodiadau a chywiriadau arni gan Caledfryn ei hun. Am y William Williams hwn, myfyriwr yn Athrofa Blackburn ydoedd a fu farw 3 Ebrill, 1829; ato ef yr oedd Gwalchmai yn anfon llythyr yn Mawrth, 1828 (Gwalchmai MSS. 1,a,b.)
Dyddiad1879
    Pwerir gan CalmView© 2008-2012