Rhif Cyf AmgCOET/50
TeitlCuttings o bapurau newydd Cymraeg a Saesneg ar helynt fawr chwarel y Penrhyn o 1900-1902 yw swrn mawr y casgliad hwn (gwel y documents pwysig, 80-81)
DisgrifiadDyma'r pethau ereill mwyaf gwerthfawr sydd ynddo:- tt.1-20. Helyntion Bethesda (1875-1876), yn enwedig miri priodas y Milwr Douglas Pennant a'r pwyllgora ynghylch ffordd haiarn o Fangor i Fethesda. t.21. Llythyrau ynghylch Dirprwyaeth Lafur 1890-1892. t.25. Dau gopi o Dravod Patagonia am 1893. tt.27,36. Y rheilffordd eto a mater y parcel office. tt.36,37. Rheolau Mynwent y Groeswen gan Caledfryn (arwyddwyd 16 Chwef., 1861). t.41 Ysgrif werthfawr ar W.J.P. ei hun yn yr Herald Cymraeg. t.44. Ymddiheurad Ogwenydd i R.O. Williams y Gerlan, (1901). tt.48,69. Cyfeiriadau diddorol at ymweliad Syr Charles Dilke â Blaenau Ffestiniog, at ymddangosiad Dilke o flaen y Divorce Court, yr atgasedd ato gan y 'gydwybod Ymneilltuol' (oddimewn gwelir copi rhydd o amddiffyniad i Dilke yn Crawford v. Crawford). t.81. Rhan o'r Faner (30 Ion., 1889) yn rhoddi amryw o ganlyniadau etholiadau cyntaf y Cyngor Sir
Dyddiad1861-1901
    Pwerir gan CalmView© 2008-2012