Disgrifiad | Casgliad o doriadau papurau newydd ar amrywiol bynciau wedi'u casglu dros gyfnod o drigain mlynedd gan Dafydd Glyn Jones yw hwn. Rhydd rhyw fath o ddarlun o fywyd Cymru a'r byd oddi ar ail hanner y 1950au.
Prif ffynonellau'r toriadu yw : Y Cymro (C) Caernarvon & Denbigh Herald (CDH) Daily Telegraph (DT) Guardian (G) Yr Herald Cymraeg (H) Independent (Ind) Observer (Ob) Sunday Times (ST) Sunday Telegraph (S.Tel) Times (T)
Bras-rannwyd dan benawdau, ac mae gorgyffwrdd wrth gwrs. Gallesid dosrannu'n fanylach, ond weithiau gall y gymysgedd fod yn ddifyrrach i'r sawl a drawo'i drwyn yn y casgliad. Mae'r anghyfartalwch o un testun i'r llall yn adlewyrchu mympwy'r casglwr a'r hyn y digwyddodd ei weld. Mae yma dipyn o hen hanes. Pwy sy'n gofidio bellach am agor tafarnau ar y Sul? Pwy sy'n cofio helynt Ysgol Bryncroes? Beth ddaeth o gynllun y dref newydd yn y Canolbarth, neu gynllun ehangu'r Bala? Pryd y cyhoeddwyd Rhybudd D ddiwethaf? Oes rhywun yn malio beth a ddywedodd 'Wil, Elystan, Goronwy a Cled aha-ha'? Pwy all restru ymgeiswyr Sir Fôn yn Etholiad Cyffedinol 1966? Erys dirgelwch Meibion Glyndwr. |
AdminHistory | Bu Dafydd Glyn Jones yn aelod o staff Adran y Gymraeg, Coleg y Brifysgol, Bangor rhwng 1966 a 2001. Tua chanol y 1950au dechreuodd gadw toriadau ar hyn a'r llall, gan feddwl efallai y gwnâi ddefnydd ohonynt 'ryw ddiwrnod'. Ni ddaeth y diwrnod. Dim ond gobeithio y bydd y casgliad o ryw fudd i rai yn ymddiddori yn hanes Cymru a'r byd dros chwe degawd. |