Disgrifiad | yn llawn hynt a helynt teulu o ffermwyr oedd yn byw yn y Rhiw, Ro Wen, Caerhun, Sir Gaernarfon. Gwelir yma gynghorion meddygol (t.t.2-3), enwau pert a doniol ar wartheg a sylw go fanwl i'r hyn a ddigwyddai iddynt (t.t.4,5,23-24), manylion am gyflogau gweision, morwynion a gofaint gwlad (t.t. 6,7,8,26-27). Yn rhan olaf y llawysgrif ceir llawer iawn o dderbynebau am rent am Tyddyndu, Rhiw a'r "Pennant Demesne". Ysgrifenwyd rhan fwyaf o'r llawysgrif gan Hugh Williams y sonir amdano gan y Parch. O. Gaianydd Williams yn y 'Tyddynwr' I iii |