Rhif Cyf AmgIW/389
TeitlLlythyrau oddi wrth Idris [Foster], 144 Rathgar Road, Dublin at Ifor Williams
DisgrifiadCafodd lythyr o Lerpwl oddi wrth L.C. Martin yn gofyn a oedd yn barod i'w enw fynd o flaen y Pwyllgor Dewis. Dim ond ef a Melville a wahoddwyd. A gaiff roi enw Ifor Williams i dystio i'w "gymwysterau"? Trafod ei waith.
Bu'r ddau yn anfon "nodion academaidd" i Ysgrifennydd y Pwyllgor. Yn ffodus, yn ôl Dr Bergin, nid cystadleuaeth am yr un ferch ydyw.
Dyddiad15/2/1936-20/2/1936
Extent2 lythyr
    Pwerir gan CalmView© 2008-2012