Disgrifiad | Ysgrifennai at Mary o Rydychen, tra'r oedd hi yn Aberystwyth. Sôn am ei amser yn Rhydychen, ble bu'n aros gyda Gwenogfryn [J. Gwenogvryn Evans]; ciniawa gydag Owen [Morgan] Edwards ac [John] Rhys; a mynychu darlithoedd ar hen bethau'r Aifft. Mae gan [O.M.] Edwards fab, bellach- sef Owen ap [neu ab] Owen. Hiraethai nad oedd gymaint o'r 'hen gymdeithas' [?Cymdeithas Dafydd ap Gwilym], yn Rhydychen bellach, ac mae'n dechrau colli ei flas ar y lle. |