Disgrifiad | Ochr A tt.1-10 Awdl y Gwanwyn, cyflwynedig i Ellis Owen, Cefnymeusydd, Esq., Eifionydd. Bangor, 1841
tt.11-18 Awdl Nadolig, cyflwynedig i'r enwog fardd, Daniel Ddu, o Geredigion. Bangor, 1842
tt.19-23 Englynion yn Llygad claf, a gyfansoddodd yr awdur, pan oedd wedi cael anwyd tost i'w lygad. 14 Awst 1841
tt.24-34 Awdl Haf. Dau can llinell. Cyflwynedig i'r Parch. J. Williams (Cynhafal). 1842
tt.35-42 Awdl Basg. 132 llinell. 1842
tt.42-46 Cywydd i ofyn cosyn at Ellis Owen, Cefn y meusydd, Esq., ar ddull prydyddion y ganrif ddiwethaf. 74 o linellau. 1844
tt.46 Bedd-argraff ar fedd Dafydd y Garreg wen, telynor enwog yn byw ger Moel y Gest, Eifionydd, tua dau gan mlynedd yn ol
tt.47-51 Awdl gywydd i'r Cynhauaf [Cynhaeaf]
tt.53-71 Crist yn marchogaeth i Jerusalem. 338 llinell
tt.72-88 Y Gweddnewidiad (dros 360 o linellau)
tt.89-152 Y Brenniad 89-101 Canto 1 103-122 Canto 2 122-132 Canto 3 133-140 Canto 4 141-152 Canto 5 "Mewn iii Canto" oedd ei fwriad ar y dechrau
tt.153-283 Englynion ac anerchiadau barddonol; rhai argraffedig wedi eu pastio ar y llawysgrif. Y rhai hiraf yw'r anerchiad i Ellis Owen, Ysw, Cefnymeusydd, 10 Gorffennaf 1867 (tt.159-164), ac englynion y Misoedd, 4 Mehefin 1871 (tt.257-260)
Ochr B tt. 1-43 Ymgais i wneyd geirfa gymharol drwy ddangos perthynasau'r Gymraeg mewn Groeg, Hebraeg, Lladin a rhai ieithoedd eraill. Ambell i ddyfaliad digynnig. Ar y cyfan, yn bur sicr. |