Disgrifiad | Cynhaliwyd y pwyllgorau'n fisol gyda chyfarfod blynyddol i'r holl aelodau. Gwahoddwyd siaradwr gwadd i'r cyfarfodydd cyhoeddus e.e. Carl Clowes, Twm Elias. Penderfynwyd cynnal cyfarfodydd cyffredinol bob chwarter. Cynhaliwyd cyfarfod arbennig a alwyd gan Gyfeillion Llyn ym Mhwllheli ar 30 Medi, 1987 i ddatgan gwrthwynebiad i unrhyw fwriad i gladdu gwastraff niwclear yn Llyn. Cafwyd cynrycholiaeth o sawl corff megis Merched y Wawr, Cymdeithas y Cymod, Yr Eglwys yng Nghymru, Pwyllgor Amddiffyn Dwyfor ac ati. Yn y Pwyllgorau misol, trafodwyd eitemau megis cynyddu aelodaeth, cyhoeddusrwydd, rheolau cynllunio, creu gwaith yn lleol, ynghyd â materion yn ymwneud â'r diffyg defnydd o'r Gymraeg. Yng nghefn y llyfr, ceir rhestr o enwau a chyfeiriadau'r aelodau.
|