Disgrifiad | Erys y swyddogion yr un rhai a chynhelir y cyfarfodydd yn fisol. Trafodwyd materion megis pentref Cymreiciaf Llyn, datblygu porthladd Pwllheli, ymgyrch y Gymraeg a materion ieithyddol (BT, Cownteri Swyddfa'r Post,Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Bwrdd Trydan, S4C, Radio Cymru, banciau, Awdurdod Iechyd Gwynedd). Gwnaethpwyd cysylltiadau a chynhaliwyd trafodaethau gyda Nant Gwrtheyrn ac Antur Llyn. Penderfynwyd gwrthod: gorsafoedd niwclear yng Nghymru; nifer o geisiadau cynllunio megis 6 ty moethus yn Llanengan; ffordd osgoi Clynnog; sefydlu coleg trydyddol yn yr ardal; bwriadau'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar Fynydd Rhiw; ystâd ddiwydiannol Pont Fechan, Llanystumdwy; cais chwarel graean Penrhos ac ati. Cafwyd ymdrech, hefyd, i ddychwelyd Meini Penprys i Gymru o Amgueddfa Ashmolean, Rhydychen. Yng nghyfarfod 21 Tachwedd, 1991, penderfynwyd cynnal cyfarfodydd bob deufis
Parhawyd i gynnal Cyfarfodydd Cyhoeddus gyda siaradwyr gwadd megis Dr Dewi Rhys 'Claddu Gwastraff Niwclear' a Duncan Brown 'Yr Amgylchedd' a chynhaliwyd Cyfarfodydd Blynyddol Cyffredinol i ddewis swyddogion a chyflwyno'r fantolen.
Yng nghyfarfod 9 Medi, 1993, nodwyd na fyddai'r Ysgrifennydd, R.S. Thomas, yn y cyfarfodydd am o leiaf chwe mis ac ni fyddai sicrwydd o'i wasanaeth wedi hyn. Yng nghyfarfod 15 Mawrth, 1994, darllenwyd llythyr oddi wrth R. S. Thomas yn nodi nad oedd yn dymuno parhau â swydd ysgrifennydd am resymau personol. Ymhellach, nodwyd yng nghofnodion 7 Gorffennaf, 1994, bod R.S. Thomas wedi gadael Llyn ac wedi ymgartrefu ym Môn. Talwyd teyrnged iddo am ei waith fel ysgrifennydd y Cyfeillion am bron i ddeng mlynedd. Cyflwynwyd rhodd iddo am ei holl waith sef cerdd bersonol wedi'i fframio.
|