Disgrifiad | Dyma gasgliad o ffeiliau o bapurau sy'n taflu goleuni ar yr agweddau amrywiol o fywyd a gwaith R. Tudur Jones. Ceir yma ohebiaeth, ffurflenni cais a phapurau ariannol yn ymwneud â Choleg Bala-Bangor a'i Hostel, gohebiaeth bersonol, erthyglau ac anerchiadau hanesyddol a diwinyddol, taflenni a gohebiaeth yn ymwneud â Phlaid Cymru etc.
Yn eu mysg hefyd ceir papurau unigolion a hyd yn oed capeli a ddaeth i law R. Tudur Jones yn ystod ei yrfa. Mae yma gofnodion Eglwys Annibynnol Treflys, Bethesda, dyddiaduron Dr Thomas Rees (1869-1926) a'r Parch. David Rees, Capel Mawr a phapurau a phregethau y Parch. William Glyndwr Howells (1917-1971).
Dyma grynodeb yn unig. Er mwyn gwneud tegwch â'r casgliad, rhaid ymgynghori'n fanwl â'r papurau eu hunain. |
AdminHistory | Ganed Robert Tudur Jones ym 1921 yng Nghricieth, yn fab i John Thomas ac Elizabeth Jones. Pan oedd yn blentyn, symudodd y teulu i fyw i'r Rhyl gan ymuno â Chapel Carmel yr Annibynwyr. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Rhyl ac er iddo gael cynnig ysgoloriaeth i fynd i Goleg yr Iesu Rhydychen fel myfyriwr, i Fangor yr aeth. Yno fe astudiodd Cymraeg, Hanes ac Athroniaeth. Ym Mangor hefyd fe ddaru gofrestu fel myfyriwr yng Ngholeg Bala-Bangor a fyddai'n ei baratoi ar gyfer y weinidogaeth.
Graddiodd ym 1945 ac aeth yn ei flaen i wneud D.Phil yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen. Ym 1948 priododd â Gwenllian Edwards.
Wedi iddo gychwyn ar ei alwedigaeth fel gweinidog cafodd gynnig cadair Hanes yr Eglwys yng Ngholeg Bala-Bangor. Yna ym 1965 fe'i dyrchafwyd yn Brifathro. Roedd yn awdur cyhoeddiadau ar hanes crefydd megis Hanes Annibynwyr Cymru, 1966, ond hefyd gweithiau athronyddol a gwleidyddol.
Bu yn olygydd y cylchgrawn Barn ac yn gyfranwr wythnosol i'r Cymro.
Rhwng 1981 a 1985 roedd yn Llywydd Cynghrair Annibynwyr y Byd. Heb os, roedd yn ffigwr sylwedddol yn hanes crefyddol cymdeithasol a gwleidyddol Cymru yn yr 20fed ganrif.
Bu farw ym 1998. |