Disgrifiad | Dylid darllen hwn ar unwaith â dyddiaduron 1830 ac 1831. Ceir yma nodiadau cyflawn ar y testunau moel a gyfleir yn y dyddiaduron. Ceir y gair "Gwallgofi" yn y dyddiadur gyferbyn a nos Sadwrn 30 Gorffennaf 1831 ond yma rhoddir disgrifiad manwl o'r gydwybod ymneilltuol yn ymladd â phroblemau materol y byd a'r bywyd hwn. Ceir mwy o sôn hefyd am y diarddel o'r gymdeithas gyda'i fam, Jane yn eu torri allan am syrthio i ddyled. Datgelir fod Daniel Jones wedi bod yn garcharor am dros dri mis ym 1822 a bu ynghanol storm fawr tu allan i ynys Hilbre yn Hydref 1824. Ni fu y fath ofidiau ar druan o ddyn ac anaml y ceir y fath ddygnwch i fanylu arnynt, na'r dewrder i fyw drwyddynt. Yn y tudalennau cyntaf gwelir man nodiadau, y rhan fwyaf o'r "Evangelical Magazine" |