Disgrifiad | Storm fawr yr helbulon wedi peidio ond y dyfroedd ddim wedi llonyddu. Siwrneon aml i Lerpwl gan Mrs Jones ac ambell waith wrth ddod yn ôl cerddai adre' yr holl ffordd o Fostyn. Yn ystod y flwyddyn mudodd o Barc-y-twll i fyw i Love Lane yn y dref. Ceir yma nifer o gyfeiriadau diddorol. Samuel, ei frawd yn anfon gair o Lerpwl fod ewyllys eu tad ar goll; gwraig o Ddinbych yn cael ei gwahardd i ddodd at Fwrdd yr Arglwydd am iddi guro'r forwyn. |