Description | tt. 1-64. Pob math o daliadau - i'r gweision, i'r gof a'r siopau, etc. Llu mawr o dderbyniadau am wenith a haidd ac ymenyn, heb son am brofit y felin wynt (t. 4) a'r felin ddŵr (7). Ar t. 58 ceir darlun go dda o'r trethi a godid tua'r flwyddyn 1804. Ar tt. 8, 11, 13 fe sylwir ar gownt y 'capal', y capel newydd yn y Talwrn a godwyd yn 1805 (John Pritchard: Methodistiaeth Môn, ?, 96). Talwyd 3/2 am rwymo llyfrau yn 1809 a 9/- am rwymo'r Beibl mawr? yn 1810 (t. 40) |