Description | Pedwar o ofyniadau a roddid ymhob lle - dosbarth dwyreiniol Môn - i gyd yn holi'n fanwl i waith y blaenoriaid. Atebion digon didderbynwyneb: brawd yn y Talwrn yn credu y gallai'r blaenoriaid fod yn fanylach; yn Ty'nygongl dywedwyd bod yr areithiau yn y Society yn rhy hirion; yn Llanallgo cwyniad bod blaenor neu ddau yn llwfr neu yn ddiog; blaenoriaid Peniel yn bur hir cyn dod i mewn i'r Seiad, "y bennod wedi ei darllen cyn iddynt ddyfod". Yn Llangoed cwyniad na buasai'r blaenoriaid "yn uwch yn y Society" h.y. yn uwch o ran llais, a cheid yr un gwyn o Baracia. Cyhoeddi llawnach a ofynnid gan y frawdoliaeth ym Miwmares. Nid yn aml y ceir adroddiad o'r fath mor onest |