Description | 1-4 Llythyrau oddi wrth un o'r enw D. Ellis [tybed ai ef yw'r David Ellis y cyfeirir ato yn llythyrau Mr Edward Jones …at ei gariad Miss gwen Prytherch (1800?) td. 10, 12], y cyntaf yn ddyddiedig Medi 19, 1821; yr ail, Medi 29, 1823; y trydydd, Ebrill 24, 1824; a'r pedwerydd, Mehefin 14 yn yr un flwyddyn. Pwy ydoedd yr Ellis hwn? Ai David Ellis, genedigol o'r Cymau yn Sir Fflint ydoedd, cyfaill mawr John Elias (yn ôl yr hanes a ddyry Mr Thickens yng nghyfrol Jiwbili Jewin t. 15), brawd i Robert Ellis o'r Wyddgrug? Annhebyg ryfeddol. Gwir fod y llythyrwr yn byw yn Llundain pan ysgrifennwyd llythyr 1821; o Gwmdwyfran yn sir Gaerfyrddin yr anfonir y tri arall, a marc post Carmarthen yn eglur iawn ar ddau ohonynt; peth arall, ar gornel amlen rhif 2, fe ddarllennir - "Dd. Ellis at Messrs. Reynolds & Smith, Tinworks, Carmarthen". Ai tebyg y buasai gwr o'r Cymau yn symud i Gwmdwyfran, ac "woollen draper" yn datblygu yn weithiwr tin? Pwy bynnag ydoedd, yr oedd iddo lawysgrif gain eglur, a gwybodaeth fawr o'r Ysgrythyrau. Purion ychwanegu mai mewn rhyw fath o wasanaeth gyda Mrs Lawrence, Champion Hill, ger Camberwell, yr oedd Mary Prytherch yn y cyfnod hwn.
5-57. Llythyrau oddi wrth Mary Prytherch at ei brawd John, neu at ei ddwy ferch, Elizabeth ac Emma. Rywbryd rhwng 1822 a Medi 1828 [cyn Ionawr 1828 yn ôl llythyr ei thad (4A inset), llawn gossip teulu ac ardal], fe briododd Mary gyda Thomas Jones (8); bu ef farw yn Rhagfyr 1836 (31); saith mlynedd wedyn fe briododd a'r Parch W. Williams (42); bu yntau farw Ion. 14, 1847 (Ion. 13 meddai'r nodyn coffa, 44). Heb fod yn hir (Mai 1851), fe symudodd Mrs Williams i sir Fôn, a bu farw yn Nhy Calch (Ion. 1871)yn 84 oed. Nid oes ddadl nad oedd yn un o ragorolion y ddaear, tebyg iawn i John Prytherch ei hun. Nid oes ddadl ychwaith am ddiddordeb byw a ffres y llythyrau hyn - llawn o grefyddolder diragrith ac effor iawn i gyffyrddiadau bywyd oddiallan. Derbyniol iawn yw y touchs teuluol - tuedd ei thad yr hen Brytherch o Dy Calch, i yfed braidd i ormodedd yn ri hen ddyddiau (23); yr anghynesrwydd rhwng yr hen wr a'i fab Robert o'r Ysgubor Fawr; cyfeiriad at orchwylion y Wallis hwnnw o Aberdyfi a briododd ei chwaer Elin; ymddygiad angharnaidd ei hewythr John, a fywiai yn Great Marlow, tuag at Elin yn y blynyddoedd cyn iddi briodi Wallis. Yn y tabl achau (1A, td 4) dywedir i'r John hwn farw yn 1816; ond dywed 58(10) ei fod yn iach fyw yn 1829, ac iddo ddal ati hyd 1835 (29). Cyfeirir hefyd at Owen John Rowland, mab Ty Fry, a oedd a'i fryd ar Fyn'd yn genhadwr, a'r argraff dda a wnaeth ar James Hughes ac ar Mrs Jones (28); ef, yn ddiau, yw'r Owen Rowlands a drodd i mewn i dy cape Jewin yn 1838 (33). Am ei yrfa droiog ef, gwêl MSS. 2, 16, yn y casgliad hwn a'r erthygl arno yn Er Clod (1934), td. 151-176. Yn Ebrill, 1831, cyfeirir at un arall o feibion Ty Fry, William (16), y bachgen a godwyd yn feddyg ac a gafodd yrfa digon anhapus (gwêl MS. 56 (4)). Dau wr pwysig ryfeddol ygwelir eu hewnau'n bur aml yn y llythyrau hyn yw Hugh Owen y Foel (Syr Hugh owen) a Griffith Davies o Landwrog (Griffith Davies, F.R.S.). Byddai H.O. yn arfer troi i mewn yn rheolaidd i dy Mary Jones; yr oedd, wrth gwrs, yn hen gyfaill i J.P. ac wedi derbyn llawer caredigrwydd gan deulu Dyffryn Gwyn; unwaith gwelir O.Y. o'i waith wrth gwt llythyr Mary Jones (11); ac unwaith, o leiaf digwyddodd ddod i mewn pan oedd M.J. ar ganol ysgrifenu i'r Dyffryn, a mynnodd yn y fan a'r lle ysgrifennu darn mawr ei hun ynghanol ei llythyr hi (Ion. 21, 1835 - 27 A). Graddol ymbellhau a wnaeth H.O. o Jewin ac ymaelodi mewn eglwys Saesneg o gwmpas 1840 (36). Am Griffith Davies, darlenner 29, 33, 37 (priodas ei ferch â Mr Dew yng Ngorffennaf, 1840), a 55 9lle y gwelir ef yn rhoddi cynghorion da ynghylch arian i Mrs Williams). Llawer cyfeiriad at Henry Richard hefyd, mab Ebenezer Richard o Dregaron, a'i ymbellhad yntau oddiwrth achos Jewin. Un cyfeiriad at (Dr.) Lewis Edwards yn 15 (Chwefror 2, 1831) - "a great devine and very good in the Society". I haneswyr Methodistiaid cynnar Llundain y mae'r llythyrau o werth arbennig. Nid aiff ymron lythyr heibio heb sylwadau ar y pregethwyr o Gymru a ddeuai i Jewin a'r Mân achosion eraill, e.e., ar Owen Jones y Gelli a'r brofedigaeth a syrthiodd iddi drwy waith ei wraig yn llosgi ewyllus ei thad (8), ar farw Thomas Jones, Caerfyrddin, a gwisgo'r pulpud mewn brethyn du o'r herwydd (diwedd Ionawr, 1831 - 15), ar ymweliad John Phillips yn niwedd 1843 "to learn the new system of Education" (43), ar John Elias a'i ail briodas - "nid oes amheuaeth na ddioddefodd lawer er pan briododd", dywediad pur amwys a phenagored (11 Mai, 1830). Gyda llaw, llawdrom iawn yn Mrs Jones ar briodas Phoebe, merch John Elias (20) - gwilw'r gwr yn "ffwl" digymrodedd. Sylwasom ar deimladau cryfion Elin yn erbyn rhyddfreinio'r Pabyddion (56 (25)). Os rhywbeth, teimla Mary yn gryfach fyth (8, medi 10, 1828); "this infernal Catholic petition" yn geilw un o'r apeliadau drostynt at drugaredd y Senedd. Rhydd Edward Cleaton i lawr fel un o bleidwyr y Catholics yn Jewin, a disgrifia'r ymddihaerad ymostyngar a ofynnwyd oddiwrtho gan yr eglwys a'r swyddogion (8 eto); serch hyn i gyd, i Mr George a drowyd allan o'r Seiat fel un o'r Eirchiaid, un o brif ffrindiau Hugh Hughes yr artist, prif amddiffynnydd y Pabyddion yn Jewin, y rhoddwyd y gwaith o "dynnu lluniau" ei diweddar frawd Samuel (11). Llawer iawn am James Hughes, a phob amser yn ri ganmol a'i fawrygu. Llawer am drefferthion amryfal M.C. Llundain, e.e. am y diarddel oherwydd priodi pobl o'r byd - " ... a prevailing evil in our Church, the women marrying men that are not members" (14, 14 Rhag., 1830). Nodiadau wrth basio am farw blaenoriaid, fel Mr Joel yn Rhagfyr, 1830. Mewn gair, nid oes hafal i'r llythyrau hyn am gossip crefyddol Cymry Methodistaidd Llundain |