Alt Ref NoASH/60
TitleCyfres o lythyrau oddi wrth amryw ohebwyr
Description(i)
1-3. Ynglyn â hanes Robert Roberts, y Sgolor Mawr. 1. is a letter from the Miss Macnamara mentioned in Life & Opinions, 182-183, and seems to rpove that she was with the Roberts family of Castell in Llanddeiniolen before coming to Grainfryn, and that she had been there about four years before the Sgolor arrived. 2,3. Refer to the previous publication of the Life in serial form in the Welsh Outlook; it is evident from 2 that Mr Prytherch Williams had a look over the proofs before-hand.

(ii)
4-15. Llythyrau at y Parch William Williams. Trefnwyd hwy yn ôl y wyddor.
4. Oddi wrth Dr Lewis Edwards (Mehefin 2, 1860), ynghylch W.P. Willaims, oedd ar y pryd yn y Coleg.
5. Oddi wrth Daniel Jones, Wrexham (11 Tach. 1844). Achos y Rhos.
6. Oddi wrth John Jones [?]. Gorff. 2, 1846, ynghylch cyhoeddiadau yn y Dê.
7. Oddiwrth Robert Owen, Llundain (Eryron) Mehefin 18, 1847. Mawrygiad o'r Parch Wm. Williams (gwêl MS. 58).
8. Oddiwrth Robert Roberts, y cerddor o'r Carneddi (Ion. 13, 1847). Ynghylch tôn.
9-14. Oddiwrth y Parch Wm. Roberts, Amlwch (1846-1855). Amgylchiadau'r achos ym Môn.
15. Llythyr diddorol iawn o'r Boro' Road Training College oddi wrth fyfyriwr o'r enw Richard Williams (Ebrill 20, 1844). Mwy diddorol oherwydd cysylltiad agos W.P.W. a'r un coleg chwarter canrif yn ddiweddarach. Yr oedd heb ei eni pan ysgrifennwyd y llythyr hwn.

(iii)
16-83. Llythyrau oddi wrth Mrs Williams, Ty Calch, gwraig y Parch W. Williams a nain Mrs Prytherch Ashby, at ei meibion yn yr ysgolion, &c. 1852-1865. Llawn o sentiment mamol, a'u cynnwys yn ei phrofi'n un o ragorolion y ddaear. Gossip y capel a'r ardal; cynghorion da, dwys, duwiol. Cyfeiriad neu ddau at Robert Roberts, y Sgolor; llawer am absenoldeb W.W. ar ei deithiau; gofalon y fferm, &c.

(iv)
84-95. Llythyrau oddiwrth Mr W. Prytherch Williams at ei rieni, ei chwiorydd, &c. (1859-1895). Rhai o'r Bala (pan yn fyfyriwr yno), o Lundain (pan yn University College), ac o Boro' Road (pan yn brif drefnydd y sefydliad pwysig hwnnw). Gweler ysgrif ar ei fywyd a'i waith yn Educational Record (Dec, 1923), 300-303
Date1845-1895
Extent138 llythyr
    Powered by CalmView© 2008-2024