Description | tt. 1-5 Cyfeirir at bechadusrwydd y fasnach mewn caethweision, at werthu llaeth yn y tŷ ar y Sabath, at wraig un o'r aelodau (ond yn ddigrefydd ei hun) yn twymo'r popty ar ddydd yr Arglwydd. (Lerpwl). Hefyd, cyfeiriadau at Gymanfa Pwllheli, 1812 (cyfiawnhad v sancteiddhad), Sasiwn Dolgellau (cwestiwn ympryd), a Sasiwn Dinbych (y gras o obaith)
tt. 8-32 Copiau o lythyrau a anfonwyd at yr ysgrifennydd gan bregethwyr pwysig y cyfnod (a) tt. 8-10 oddi wrth R. Lloyd, 13 Rhagfyr 1805 (b) tt. 10-11 oddi wrth R. Lloyd, 12 Chwefror ?1812 (c) tt. 11-14 oddi wrth Peter Roberts, 16 Rhagfyr 1810 (d) tt. 14-17 oddi wrth E.J., 14 Rhagfyr 1801 (e) tt. 18-21 oddi wrth ?John Elias, 28 Chwefror 1801 (f) tt. 21-24 oddi wrth ?John Elias, 23 Medi 1801 (g) tt. 24-28 oddi wrth ?John Elias, 29 Ionawr 1802 (h) tt. 28-30 oddi wrth ?John Elias, 17 Awst 1804 (i) tt. 30-32 oddi wrth ?John Elias, 8 Mawrth 1804
Ni wyddus pwy oedd ysgrifennydd y llyfr hwn. Yr oedd yn aelod pwysig, os nad bugail, yn y ddiadell yn Llundain (gwel tt. 10, 30). Y mae ymron bob llythyr ato yn llawn cyfeiriadau at derfysg a thrafferth yn yr eglwys honno (1801-1804) |