Description | Ochr A (a) Cofnodion Cymdeithasfa Bangor, 5-7 Medi 1853, tt.1-26 (b) Cofnodion Cymdeithasfa Treffynnon, Rhagfyr 1853, tt.27-76
Ochr B - Copiau o lythyrau anfonwyd gan y Parch. Roger Edwards fel ysgrifenydd y Gymdeithasfa (a) at y Parch. Cadwaladr Williams, Llywydd Cyfarfod Misol Môn (Rhagfyr 1841). Protest bwyllog yn erbyn gwaith C.M. Môn yn bygwth ymwahanu oddi wrth eu brodyr yn y siroedd eraill ar fater y Ddwy Athrofa (Bala a Threfecca), tt. 9-13 (b) at David Charles Ysw., Caerfyrddin, 13 Mehefin 1842). Llythyr at "Gyfeisteddfod Athrofa Trefecca". Caniatâd i'r cyfeisteddfod ohebu a'r Parch. David Charles (un o athrawon Athrofa'r Bala) gyda'r pwrpas iddo syud i Drefecca, tt. 14-15 (c) to the "Managers of the Welsh Chapel, Jewin Crescent, Aldersgate Street, London", 13 Mehefin 1842. Ellis Phillips o Wrecsam yn dod i bregethu i Lundain am dymor yr Hydref; anallu Roger Edwards i ddod; apel am gymorth ariannol o Lundain i gynorthwyo y Genhadaeth Gartrefol yn Birmingham a Bilston. tt. 16-17 (d) at y Parch. D. Morgan, Trallwm, 13 Mehefin 1842. Morgan yn awyddus am fynd fel canhadwr i Lydaw. Bwrdd y Gymdeithasfa yn methu a'i gymeradwyo - "am eu bod yn ystyried eich oedran, eich teulu, eich arferion bywyd"; cyngor iddo i ddal ymlaen gyda'r gwaith da ar y Goror, t.18 (e) at y Parch. William Hughes, 13 Mehefin 1842. Cais ar iddo wasanaethu'r achos yn Nulyn am dymor nid llai na hanner blwyddyn. Rhaid oedd cael gwr yn hyddysg yn y ddwy iaith. |