AdminHistory | Ganed Robert Davies, neu Bardd Nantglyn, yn Nantglyn, Sir Ddinbych ym 1769. Roedd yn fardd ac yn ramadegwr a gweithiodd fel prentis i deiliwr.
Symudodd i Lundain ym 1800 lle'r oedd yn aelod amlwg o Gymdeithas y Gwyneddigion. Hefyd, fe enillodd nifer o gystadlaethau Eisteddfodol am ei awdlau. Bu farw ym 1835. |