AdminHistory | Ganed John Richards (Isalaw) mewn ty o'r enw'r King's Head yn Hirael, Bangor. Roedd ei dad, Richard Richards, yn enedigol o Aberdaugleddau, sir Benfro, a'i fam Mary o Langwnadl, Llyn. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Frydeinig yn ardal y Garth, Bangor ac yna yn Shoreland Road School, Birmingham, Lloegr am ddwy flynedd, lle y dechreuodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth o dan Mr Andrew Deaking, yr organydd. Pan ddychwelodd i Fangor, Dechreuodd, gyda Thomas Williams, y dosbarth Sol-fa cyntaf ym Mangor.
Byddai Isalaw yn cynorthwyo nifer o gyfansoddwyr drwy gopio a chywiro eu gwaith. Ysgrifennodd hefyd nifer o erthyglau ar gerddoriaeth mewn cylchgronnau. Roedd yn gyfansoddwr ac fe gyhoeddwyd ei waith yn "Caneuon Isalaw"
Bu farw ar 15 o Fedi 1901 ac fe'i claddwyd ym mynwent Glanadda, Bangor |